Addo
Gwna addewid i Gymru
Fel prif wasanaethau cynhyrchu a dosbarthu cynnwys Croeso Cymru a Masnach a Buddsoddi Cymru, rydym yn hyddysg mewn creu ymgyrchoedd cyfathrebu integredig, aml-sianel.
Mae ein Cydweithfa C/O Cymru yn fodel unigryw ar gyfer creadigrwydd, arloesi, cydweithio a dosbarthu. Fel gyda’n holl friffiau, rydym yn defnyddio ein hystod o wasanaethau, o strategaeth greadigol a chynhyrchu ffilmiau i gynllunio a phrynu cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol, a dylunio a gweithredu.
Strategaeth
Cynllunio a Phrynu Cyfryngau
Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau Cymdeithasol
Roedd yn bwysig, drwy’r pandemig, bod pobl yn teimlo’n gysylltiedig ac yn buddsoddi yng Nghymru fel cyrchfan hyd yn oed os na allent ymweld. Ein her oedd annog pobl i fuddsoddi’n emosiynol yng Nghymru er mwyn cynorthwyo’r diwydiant twristiaeth a phortreadu Cymru fel lleoliad delfrydol i sefydlu, datblygu a buddsoddi mewn busnes.

Gan ddefnyddio ein sgiliau, ein gwybodaeth a’n dirnadaeth ar y cyd, aethom ati i greu ac esblygu cynnig brand penodol – Addo – Gwnewch eich addewid i Gymru. Fe wnaethom annog pobl i ymrwymo i addewid rhithwir, ac i fod yn fwy ystyriol yn eu hymddygiad tuag at bobl eraill, yr amgylchedd naturiol, a chymunedau Cymru. Roedd ein gweithrediadau yn rhai aml-sianel, o gynnwys ar-lein i gylchlythyr a chymdeithasol, fideo a theledu – y cyfan â’r nod o annog gweithredu ac ennyn emosiwn.

