Awyr Dywyll
Adrodd ein stori am Gymru
Rydym wedi bod yn brif gontractwr Croeso Cymru, Masnach a Buddsoddi Cymru, a Wales.com ers bron i ddegawd. Rydym wedi creu cannoedd o fideos, erthyglau, strategaethau a gweithrediadau yn ystod yr amser hwnnw gan ddefnyddio ein tîm amlddisgyblaethol.
Yr her hon i Croeso Cymru oedd dod o hyd i ffordd o dynnu sylw at y manteision o ymweld â Chymru yn ystod tymor y gaeaf. Roedd rhaid i ni ofyn i ni’n hunain sut mae arddangos Cymru a chael pobl i ymweld pan mae’n oer a thywyll y tu allan?
Ysgrifennu Sgriptiau
Cynhyrchu
Golygu
Ôl-gynhyrchu
Rydym yn strategwyr profiadol ac aethom ati i edrych yn fanwl ar ba elfennau penodol o’r gaeaf yng Nghymru oedd yn unigryw ac y gallem eu defnyddio i adrodd stori, pa fath o gynnwys a negeseuon y gallai’r gynulleidfa uniaethu â hwy, a sut gallem ddefnyddio ein lleoliad fel ased. Roeddem yn gwybod bod dyhead i dargedu teuluoedd ac anturiaethwyr ifanc a nodwyd nodweddion cyffredin gennym a fyddai’n apelio at y ddwy farchnad.

