Mae’r Pennaeth Digwyddiadau a Phrofiadau yn gyfrifol am arwain cynllunio, cydlynu a gweithredu pob prosiect sy’n gysylltiedig ag arddangosfeydd a digwyddiadau. Mae’r rôl hon yn cynnwys rheoli a datblygu tîm, datblygu strategaethau digwyddiadau, a sicrhau bod digwyddiadau ac arddangosfeydd o ansawdd uchel yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus yn gydnaws â safon Orchard.  

 Bydd y swydd yn gofyn am wneud penderfyniadau tactegol i gyflawni strategaeth y cwmni. Bydd y swydd yn golygu gweithio’n agos gyda’r Uwch Dîm Arwain i hyrwyddo integreiddio a sicrhau bod pob tîm a chyflogai yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni nodau ac amcanion terfynol Orchard.  

 Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar allu cryf i weithio’n rhagweithiol, a gweithredu ar  dueddiadau cyfredol a rhai sy’n dod i’r amlwg i baratoi maes datrysiadau Gweithrediadau ar gyfer y dyfodol a chreu cynlluniau gweithredu a thwf parhaus yn unol â hyny.  

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd llawn yma

Sut i wneud cais

Anfonwch llythyr eglurhaol a’ch CV neu eich portffolio i Jointheteam@thinkorchard.com .

Rydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau felly byddwn yn gwneud ein gorau i gysylltu â phawb, os nad ydych wedi clywed gennym o fewn mis o’ch cais, yn anffodus na fydd eich cais wedi bod yn llwyddiannus.

Ffitio’r bill? Hoffem clywed wrthoch chi!

Astudiaethau achos

0
0

Beth am sgwrs?

Rydym bob amser yn hapus i gwrdd â phobl newydd